#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Ym mis Chwefror 2017, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yn gofyn iddynt am wybodaeth ynghylch eu llwybrau diagnosis ac atgyfeirio ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Ar adeg ysgrifennu'r briff hwn, nid oedd ymateb wedi dod i law gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Isod, ceir crynodeb o'r prif bwyntiau sydd wedi dod i'r amlwg yn yr ymatebion a gafwyd hyd yn hyn:

Disgwylir i feddygon teulu a chlinigwyr eraill gadw at ganllawiau cenedlaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran rhoi diagnosis o ddiabetes math 1 a rheoli'r clefyd, fel y canllawiau a gyhoeddwyd gan NICE (y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol).

Yn unol â chanllawiau NICE, dylid cyfeirio plentyn neu berson ifanc y tybir bod ganddo ddiabetes math 1 ar unwaith (ar yr un diwrnod) i dîm diabetes pediatrig amlddisgyblaethol a fydd yn gallu cadarnhau'r diagnosis a darparu gofal ar unwaith.

Nododd dau fwrdd iechyd (Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan) ei bod yn arferol, mewn achosion o ddiagnosis neu atgyfeirio hwyr, er enghraifft pan fydd plentyn yn dangos symptomau o getoasidosis diabetig (DKA), i'r meddyg teulu dan sylw gynnal adolygiad achos er mwyn nodi unrhyw bwyntiau dysgu.

Nododd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yr angen i sicrhau bod meddygon teulu yn effro i'r posibilrwydd o ddiabetes math 1 a chetoasidosis diabetig, gan nodi bod diabetes math 1 yn salwch gymharol anghyffredin a'i bod yn bosibl na fydd meddygon teulu unigol yn ymdrin â llawer o achosion.

Nododd byrddau Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan a Betsi Cadwaladr fod camau'n cael eu cymryd yn eu hardaloedd i godi ymwybyddiaeth ynghylch diabetes math 1 mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Darparodd bwrdd Aneurin Bevan enghreifftiau o hyn, gan gynnwys:

§    sesiynau dysgu rheolaidd gyda meddygon iau (gan gynnwys meddygon teulu o dan hyfforddiant) er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch symptomau diabetes a'r angen am brofion priodol;

§    gweithgarwch codi ymwybyddiaeth drwy'r Rhwydweithiau Gofal Cymdogaeth[1]; a

§    gwaith i ddatblygu modiwl dysgu ar-lein.

Pwysleisiodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf bwysigrwydd addysg, gan awgrymu y byddai'n bosibl targedu'r cyhoedd yn gyffredinol ac mewn ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at y llythyr a anfonwyd gan Rwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc Cymru at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Roedd y llythyr hwnnw'n tynnu sylw at yr astudiaeth a wnaed yn ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd ar ganfod diabetes math 1 yn gynnar ymhlith pobl ifanc. Roedd yr astudiaeth yn ystyried y posibilrwydd o weithredu ymyriadau addysgol cymunedol, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch symptomau diabetes math 1 ymhlith rhieni, athrawon, a gweithwyr ym maes gofal iechyd sylfaenol. Roedd llythyr y rhwydwaith (dyddiedig Tachwedd 2016) yn datgan bod ymdrechion yn cael eu gwneud i gael cyllid i ymestyn yr astudiaeth, a hynny er mwyn dangos a yw ymyriadau o'r fath yn cael effaith ar gyfraddau diagnosis ym maes cetoasidosis diabetig.

Nododd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bwysigrwydd mabwysiadu dull partneriaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth a hwyluso'r broses o roi diagnosis cynnar o ddiabetes, gan gynnwys rolau i fferyllfeydd cymunedol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau yn y sector gwirfoddol fel Diabetes UK.

Prif fyrdwn y ddeiseb hon yw sicrhau diagnosis cynnar o ddiabetes math 1, yn hytrach na rheoli'r clefyd yn dilyn diagnosis. Yn ôl yr ymatebion a gafwyd gan y byrddau iechyd, unwaith y bydd claf yn cael ei dderbyn ar gyfer triniaeth, dylid dilyn y llwybrau Cymru gyfan perthnasol a'r safonau proffesiynol perthnasol.

Roedd ymatebion y byrddau iechyd yn amrywio o ran lefel y manylion a ddarparwyd. Felly, nid yw'n glir pa mor gyson yw'r dulliau sy'n cael eu gweithredu ar draws yr holl fyrddau iechyd i hyrwyddo diagnosis cynnar o ddiabetes math 1. Yn ogystal, nid yw'n glir a oes lle i wneud gwaith pellach yn y meysydd a ganlyn:

§    Nodi a rhannu arfer da (o fewn ac ar draws yr holl fyrddau iechyd) er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch sicrhau diagnosis cynnar o ddiabetes math 1 ymhlith gweithwyr rheng flaen ym maes iechyd, a chefnogi'r gwaith hwn;

§    Codi ymwybyddiaeth ynghylch canllawiau NICE ar sicrhau diagnosis o ddiabetes math 1 a rheoli'r clefyd, a rhoi'r canllawiau hyn ar waith;

§    Sicrhau dull cyson a chadarn o gynnal adolygiadau achos pan fydd cleifion yn dangos symptomau o getoasidosis diabetig;

§    Datblygu ffyrdd o godi ymwybyddiaeth ynghylch symptomau diabetes math 1 ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, gweithwyr iechyd, ac o fewn sefydliadau addysgol.

 

Rhagor o wybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Diabetes 2016-2020 ers i'r Pwyllgor drafod y mater hwn ddiwethaf. Mae'r cynllun hwn yn tynnu sylw at yr angen am ddiagnosis prydlon o ddiabetes math 1 er mwyn lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chetoasidosis diabetig.

Mae hyn yn hanfodol i blant a allai fod â diabetes math 1; dylai unrhyw blentyn sy'n wael ac sydd ag unrhyw un o nodweddion diabetes gael archwiliad brys o glwcos yn y gwaed mewn capilari a dylid ei atgyfeirio ar frys (i gael ei weld ar yr un diwrnod) i wasanaethau arbenigol os amheuir diabetes.

Mae'r camau gweithredu allweddol o ran darparu gwasanaethau (sydd wedi'u nodi yn y cynllun cyflawni) yn cynnwys:

§    Byrddau iechyd i sicrhau bod pob aelod o staff allweddol yn meddu ar y wybodaeth i nodi'r ffactorau risg a nodweddion clinigol diabetes ac i gynnal y profion diagnostig priodol.

§    Y Grŵp Gweithredu ar gyfer Diabetes i ddatblygu adnoddau addysgol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn cefnogi'r gwaith o ganfod a dosbarthu diabetes.

§    Y Grŵp Gweithredu ar gyfer Diabetes, mewn partneriaeth â Diabetes UK, i ddatblygu ymgyrch codi ymwybyddiaeth er mwyn hwyluso'r gwaith o roi diagnosis cynnar o ddiabetes math 1 mewn plant.

Mae 'Derbyniadau brys ar gyfer hypoglycemia a chetoasidosis diabetig' yn cael ei nodi fel un o'r dangosyddion perfformiad gwasanaeth allweddol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc.



[1] Mae'r rhain yn grwpiau o feddygon teulu sy'n gweithio gyda gweithwyr iechyd a gofal eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol. Fe'u hadwaenir mewn ardaloedd byrddau iechyd eraill fel clystyrau gofal sylfaenol.